Skip to content. Skip to navigation
members
Sections
You are here: Home SkillsActive around the UK Cymru
Document Actions

Cymru

Cyflwyno SkillsActive yng Nghymru

Mae SkillsActive Cymru eisoes wedi sefydlu pwyllgor diwydiant ac ar hyn o bryd, mae Strategaeth 2004-2008 ar ffurf drafft. Mae’r Strategaeth yn canolbwyntio ar y prif newidiadau, camau gweithredu a blaenoriaethau allweddol sy’n hollbwysig er mwyn gwella sgiliau a chynhyrchiant yng Nghymru yn ôl cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a chyrff eraill.

Ein swyddogaeth ni yw sicrhau bod cyflogwyr Cymru yn ymwneud yn llawn â’r Sector ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae rhaglen waith SkillsActive Cymru yn cynnwys:

Mae rhaglen waith SkillsActive Cymru yn cynnwys:

  • Sefydlu Rhwydweithiau Dysgu Cyflogwyr (ELN). Rhwydweithiau o gyflogwyr ledled Cymru yw’r ELN. Byddant yn cwrdd yn rheolaidd i nodi’r anghenion o ran sgiliau a hyfforddiant yn eu hardaloedd.
  • Proffesiynoli’r Diwydiant Iechyd a Ffitrwydd yng Nghymru.
  • Cynllun Hyfforddi ar gyfer Cymru. Ar y cyd â Chyngor Chwaraeon Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, rydym yn cefnogi datblygiad Tystysgrif Hyfforddi Genedlaethol ledled Cymru.
  • Arolwg Darpariaeth Hyfforddiant LMI. Rydym yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i nodi bylchau a phrinder sgiliau ganddynt ar hyn o bryd, ac yn edrych ar ansawdd y ddarpariaeth hyfforddiant ledled Cymru. Bydd y canlyniadau yn cyfrannu gwybodaeth at Gynllun Datblygu Gweithlu Cymru.

Polisi Iaith Gymraeg SkillsActive

Mae SkillsActive yn cydnabod y dylai unigolion allu mynegi eu barn a’u hanghenion yn eu dewis iaith. Rydym wrthi’n datblygu Polisi sy’n sicrhau bod gan y cyhoedd hawl i ddewis pa iaith i’w defnyddio wrth ddelio bob amser â SkillsActive.

Cliciwch yma ar gyfer y newyddion diweddaraf gan SkillsActive yng Nghymru.


Skills for Business Contact | Site Map | Accessibility | Privacy | © 2006–7 SkillsActive | site by Text Matters using Plone