Cymru
Cyflwyno SkillsActive yng Nghymru
Mae SkillsActive Cymru eisoes wedi sefydlu pwyllgor diwydiant ac ar hyn o bryd, mae Strategaeth 2004-2008 ar ffurf drafft. Mae’r Strategaeth yn canolbwyntio ar y prif newidiadau, camau gweithredu a blaenoriaethau allweddol sy’n hollbwysig er mwyn gwella sgiliau a chynhyrchiant yng Nghymru yn ôl cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a chyrff eraill.
Ein swyddogaeth ni yw sicrhau bod cyflogwyr Cymru yn ymwneud yn llawn â’r Sector ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae rhaglen waith SkillsActive Cymru yn cynnwys:
Mae rhaglen waith SkillsActive Cymru yn cynnwys:
- Sefydlu Rhwydweithiau Dysgu Cyflogwyr (ELN). Rhwydweithiau o gyflogwyr ledled Cymru yw’r ELN. Byddant yn cwrdd yn rheolaidd i nodi’r anghenion o ran sgiliau a hyfforddiant yn eu hardaloedd.
- Proffesiynoli’r Diwydiant Iechyd a Ffitrwydd yng Nghymru.
- Cynllun Hyfforddi ar gyfer Cymru. Ar y cyd â Chyngor Chwaraeon Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, rydym yn cefnogi datblygiad Tystysgrif Hyfforddi Genedlaethol ledled Cymru.
- Arolwg Darpariaeth Hyfforddiant LMI. Rydym yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i nodi bylchau a phrinder sgiliau ganddynt ar hyn o bryd, ac yn edrych ar ansawdd y ddarpariaeth hyfforddiant ledled Cymru. Bydd y canlyniadau yn cyfrannu gwybodaeth at Gynllun Datblygu Gweithlu Cymru.
Polisi Iaith Gymraeg SkillsActive
Mae SkillsActive yn cydnabod y dylai unigolion allu mynegi eu barn a’u hanghenion yn eu dewis iaith. Rydym wrthi’n datblygu Polisi sy’n sicrhau bod gan y cyhoedd hawl i ddewis pa iaith i’w defnyddio wrth ddelio bob amser â SkillsActive.
Cliciwch yma ar gyfer y newyddion diweddaraf gan SkillsActive yng Nghymru.