SkillsActive - 27/1/12
Bydd Chwarae Cymru a The Scottish Qualifications Authority (SQA) yn helpu SkillsActive Cymru i fynd i’r afael â chynnydd disgwyliedig yn y galw am gymwysterau yn y sector gwaith chwarae yng Nghymru.
Mae SkillsActive Cymru wedi sicrhau tua £235,000 o gyllid y Llywodraeth o Raglen Beilot Cronfa Flaenoriaethau’r Sector i ddatblygu cymwysterau ar lefel Gwobr, Tystysgrif a Diploma ar gyfer Rhoi Egwyddorion Gwaith Chwarae ar Waith. Mae Chwarae Cymru a SQA wedi’u penodi i arwain trosglwyddiad y prosiect.
Meddai rheolwr SkillsActive Cymru Richard Tobutt: “Eisoes, mae’r sector Gwaith Chwarae yn wynebu prinder sgiliau sylweddol yng Nghymru. Bydd hyn yn siŵr o waethygu pan ddaw deddfau i rym yn 2012 a fydd yn gofyn i bob awdurdod lleol ddarparu cyfleoedd chwarae digonol i blant a phobl ifanc.
“Rydym yn falch bod ein cais am y cyllid hwn wedi bod yn llwyddiannus, ac y bydd gweithwyr chwarae yn cael cyfle i ennill y cymwysterau lefel uwch hyn.”
Bydd y cymwysterau newydd yn cael eu rhoi ar y FfCCh ar Lefel 3 ac fe’i bwriedir ar gyfer gweithwyr chwarae a staff gofal plant sy’n dymuno symud i’r cam nesaf ar ôl cwblhau’r gyfres o gymwysterau P3 Lefel 2 sy’n bodoli eisoes. Bydd Chwarae Cymru hefyd yn creu ystod o adnoddau dysgu arloesol.
I gael rhagor o fanylion am yr hyfforddiant a’r modd y gall cyflogwyr a gweithwyr chwarae ddatgan diddordeb, anfonwch e-bost at reolwr SkillsActive Cymru, Richard Tobutt, ar This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.