Rhaglen SkillsActive i hybu prentisiaethau Cymreig

readinenglish

 

 

SkillsActive - 26/1/12

 

Gobaith SkillsActive Cymru yw gweld rhagor o bobl ifanc yn ymgymryd â phrentisiaethau yn sgil cyflwyno rhaglen Llwybrau i Brentisiaeth Chwaraeon a Hamdden Heini SkillsActive.

 

Fe’i datblygwyd gan SkillsActive mewn ymgynghoriad â chyflogwyr blaenllaw, a lluniwyd y rhaglen i ddenu dysgwyr sy’n awyddus i gael gyrfa yn y diwydiant chwaraeon a hamdden heini.  

Dechreuodd y grŵp cyntaf o fyfyrwyr ar y rhaglen ym mis Medi 2011 a byddant yn treulio eu blwyddyn gyntaf yn astudio cyfuniad o gymwysterau craidd a dewisol ar Lefel 2.

Mae’r rhaglen yn cefnogi’r ymagwedd strategol a osodwyd yn strategaeth ‘Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru’ Llywodraeth Cymru. Caiff ei chyflwyno gan sefydliadau addysg bellach megis Coleg Sir Gâr, Coleg Ystrad Mynach, Coleg Llandrillo a Choleg Caerdydd a’r Fro.
 
I gael rhagor o wybodaeth am y modd y gallech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost at Sara Hale This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. .

Read 2734 times

Contact SkillsActive | Work for SkillsActive | Our Board | Terms & Conditions | Privacy Policy | Accessibility
SkillsActive UK is a registered charity no. 1098336 and a company limited by guarantee registered in
England and Wales no. 4661021, registered office Castlewood House, 77-91 New Oxford Street, London, WC1A 1DG.

© 2013 SkillsActive

Sign In