SkillsActive - 26/1/12
Gobaith SkillsActive Cymru yw gweld rhagor o bobl ifanc yn ymgymryd â phrentisiaethau yn sgil cyflwyno rhaglen Llwybrau i Brentisiaeth Chwaraeon a Hamdden Heini SkillsActive.
Fe’i datblygwyd gan SkillsActive mewn ymgynghoriad â chyflogwyr blaenllaw, a lluniwyd y rhaglen i ddenu dysgwyr sy’n awyddus i gael gyrfa yn y diwydiant chwaraeon a hamdden heini.
Dechreuodd y grŵp cyntaf o fyfyrwyr ar y rhaglen ym mis Medi 2011 a byddant yn treulio eu blwyddyn gyntaf yn astudio cyfuniad o gymwysterau craidd a dewisol ar Lefel 2.
Mae’r rhaglen yn cefnogi’r ymagwedd strategol a osodwyd yn strategaeth ‘Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru’ Llywodraeth Cymru. Caiff ei chyflwyno gan sefydliadau addysg bellach megis Coleg Sir Gâr, Coleg Ystrad Mynach, Coleg Llandrillo a Choleg Caerdydd a’r Fro.
I gael rhagor o wybodaeth am y modd y gallech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost at Sara Hale
This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
.